top of page
About
Amdanom

Wedi ei leoli ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wrth droed y Mynydd Du, mae safle hanesyddol Coleg Trefeca yn opsiwn rhagorol os am aros yng Nghanolbarth Cymru, os ydych am gael gwyliau haeddiannol, cynhadledd, hyfforddiant neu encil.

​

Yn dyddio o 1752, mae Coleg Trefeca yn Adeilad Cofrestredig Gradd II*, a dyma oedd cartref Howell Harris, Arweinydd cynnar y Methodistiaid Calfinaidd.

Adeiladwyd y safle’n wreiddiol gan gymuned Gristnogol o grefftwyr, pobl oedd yn rhannu eu ffydd a’u bywydau, ac mae hanes ysbrydol cyfoethog yn perthyn i’r lle.

 

Dros y blynyddoedd, mae wedi bod yn le o addoliad, gwaith, hamdden a lloches. Mae Coleg Trefeca yn parhau i fod yn hyn i gyd hyd heddiw. Mae’n cynnig cyfleusterau cynadledda da, gyda’r dewis i drefnu hunan-arlwyaeth neu cael bwyd wedi ei arlwyo. Yr ydym yn eich croesawu i’w berchnogi.

DSC_0111.JPG

Eich Cynhadledd Undydd

Mae’r Mynydd Du a’r tirwedd hanesyddol yma yn cynnig amgylchedd perffaith ar gyfer y gynhadledd arbennig yna yr ydych wedi bod yn trefnu. Mae’n safle arbennig ar gyfer cynadleddau preswyl bychan neu gynadleddau undydd. Mae gan Coleg Trefeca yr adnoddau angenrheidiol ar gyfer fidio gynadledda os ydych yn trefnu digwyddiad hybrid. Ceir darpariaeth ar gyfer taflunio HD llawn ym mhob ystafell.

​

O ran ein gwasanaeth arlwyo, yr ydym yn falch o’r enw da sydd gennym am ragoriaeth ein darpariaeth, a medrwch archebu brecwast, cinio a pryd min nos fydd yn ychwanegu at brofiad mynychwyr eich cynhadledd. Yr ydym wedi ymrwymo i roi gwasanaeth rhagorol i’n cwsmeriaid, a byddwn wrth law i ateb unrhyw ofyn ar y pryd. 

​

Medrwch archebu eich cynhadledd undydd heddiw drwy e-bostio enquiries@trefeca.org.

​

Mi fydd archebion ar gyfer cynadleddau preswyl yn agor yn 2024.

DSC_0113.JPG

Eich Hyfforddiant

Mae eich hyfforddiant yn allweddol i lwyddiant eich sefydliad. Yr ydym yn gwybod yn dda ei bod yn bwysig medru ei ddarparu yn yr union ffordd a fwriadwyd. O ganlyniad, byddwn yn sicrhau fod popeth yn unol â’r gofyn i’ch galluogi i ganolbwyntio ar sicrhau’r elw gorau o’ch digwyddiad hyfforddiant. Mi fyddwn wedi gosod yr ystafelloedd yn barod, yn ôl eich cais, a bydd y cyfarpar clywedol a thaflunio HD yn barod ar eich cyfer. 

​

Bydd y rhai sy’n mynychu’n rhithiol yn elwa o brofiad di-rwystr, a bydd ein tîm wrth law i ateb unrhyw geisiadau fydd gennych. Ac, i ddiogelu fod pawb yn medru canolbwyntio, bydd coffi hidl a dewis o de yn cael ei ddarparu.

​

Ar hyn o bryd yr ydym yn medru cynnig hyfforddiant dydd, di-breswyl. Medrwch archebu eich sesiwn/dydd drwy e-bostio enquiries@trefeca.org.

​

Byddwn yn derbyn archebion ar gyfer ein ystafelloedd aros en-suite, sydd yn y broses o gael eu hail-addurno, yn 2024.

Eich Encil

Mae Trefeca wedi bod yn leoliad ar gyfer myfyrio a thwf ysbrydol ers 1752. Os pwrpas eich encil yw i ymlacio, llesiant personol, neu cyfle i brofi adnewyddiad ysbrydol personol, mae hanes a lleoliad heddychlon Trefeca yn golygu ei fod yn cynnig ei hun i’r diben. Medrwch dreulio amser yn crwydro’r tir, gan gymryd amser i ymweld â’r ardd gaerog, mynd am dro ar hyd y wlad o’n hamgylch, neu fyfyrio yn un o’r mannau tawel sydd drwy’r adeilad. Gall eich bwyd gael ei ddarparu gan ein cegin, a medrwn warantu y bydd yn rhagorol. 

IMG_2870.jpeg
Eich Hamdden

Os am ddiwrnod i ffwrdd gyda teulu neu eich eglwys, mae lleoliad hyfryd Trefeca, y tiroedd braf a’r cyfleusterau rhagorol, yn cyfuno i sicrhau ei fod yn gyrchfan berffaith.

bottom of page